Cyflog: £43,421 – £45,441
Hyd: Parhaol 37 awr
Lleoliad: DreNewydd
DYDDIAD CAU: 11/07/24
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076
DYDDIAD CAU: 11/07/24
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076
Rydym yn chwilio am reolwr i gefnogi Rheolwr Rhanbarthol Canolbarth Cymru ACGChC ac i ymgymryd â rheolaeth weithredol a chynnal a chadw’r rhwydwaith cefnffyrdd sengl yn ardal Gogledd Powys yn rhanbarth Canolbarth Cymru.
Cyflawni gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a chynnal Rhwydwaith diogel ac effeithlon ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae angen y rôl i gynorthwyo i reoli darpariaeth trwy Ddarparwyr Gwasanaeth Awdurdodau Lleol yn ogystal ag Ymgynghorwyr a Chontractwyr.
Byddwch yn cynorthwyo i reoli Ymatebion Argyfwng, Cynnal a Chadw Rheolaidd a Chynnal a Chadw Cyfalaf o fewn Rhanbarth Canolbarth Cymru, gan reoli 2 Reolwr Llwybr Cynorthwyol.
Mae’r rôl yn cynnwys cymryd rhan mewn gwasanaeth y tu allan i oriau.
Gallu gweithio mewn amgylchedd tîm.
Parodrwydd i gymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd ei hun o fewn paramedrau diffiniedig.
Medru ysgogi ei hun yn dda ac yn ymroddedig iawn.
Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda.
Gradd neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu bwnc perthnasol, neu HNC ynghyd â phrofiad perthnasol sylweddol.
Profiad sylweddol o reoli prosiectau a chyllidebau.
Gweinyddu prosesau caffael a rheoli contractau adeiladu.
Rheoli gweithgarwch cynnal a chadw priffyrdd.
Ystod eang o brofiad o gynnal a chadw priffyrdd ac/neu ddylunio priffyrdd.
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith.
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno da.
Gallu addasu i ystod eang o faterion gweithredol.
Sgiliau TG da.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch o ran Rheoliadau CDM.
Trwydded yrru ddilys gyfredol.
Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol a’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon
Job Category | Rheolwyr Llwybrau |
Salary | £43421 - £45441 Bob Blwyddyn |