Telerau ac Amodau

 

Mae mynediad a defnydd gwefan ACGCC gennych yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sy’n dod i rym o ddyddiad y defnydd cyntaf.

 

Yn y telerau ac amodau hyn a thrwy gydol y wefan hon (oni nodir yn wahanol), mae “ni” neu “ni” yn cyfeirio at Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC).

 

Ymwadiad cynnwys

 

Mae pob ymdrech wedi ei gymryd i sicrhau cywirdeb y wybodaeth ar y tudalennau hyn. Fodd bynnag, darperir y wybodaeth hon YN LLWYR ar y sail bod ACGCC, ei gweithwyr, asiantau, cynrychiolwyr a phawb arall sydd yn ymwneud ag ysgrifennu, golygu, cymeradwyo, cyhoeddi neu unrhyw waith arall yn ymwneud a’r deunydd:

 

  1. Yn ymwadu pob cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad, gwall trwy esgeulustod gwaith hwyr neu unrhyw annigonolrwydd, diffyg, neu wall yn ymwneud a’r wybodaeth; ac
  2. (heb gyfyngu (1) uchod) yn diystyru unrhyw atebolrwydd, yn cynnwys esgeulustod ar ran unrhyw un a phob un ohonynt i unrhyw berson neu endid sydd yn dewis dibynnu ar y wybodaeth; ac
  3. yn methu sicrhau y bydd yr holl wybodaeth yn ddwyieithog lle mae’r wefan yn dibynnu ar ddata neu systemau cwmnïau allanol/3ydd parti.

 

Hypergysylltu

 

Mae ACGCC yn fodlon i ddefnyddwyr creu cysylltiadau hyperdestun â’r wefan hon. Fodd bynnag, dylai tudalennau gwe ACGCC gael eu llwytho i mewn  i ffenestr gyflawn y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar eich safle.

 

Os hoffech gynnwys tudalennau gwe ACGCC o fewn safle porth, cysylltwch â ni gyda’ch enw, manylion cyswllt a disgrifiad o wefan eich porth.

 

Gwefannau cysylltiedig

 

Nid yw ACGCC yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd gwefannau cysylltiedig a nid yw o reidrwydd yn cymeradwyo’r safbwyntiau a fynegir ynddynt. Ni chymerir rhestru fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

 

Diogelu rhag feirysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu. Mae’n syniad da i chi redeg rhaglen wrth-feirws ar unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os byddwch yn colli data neu os difrodir neu amherir ar eich system gyfrifiadur tra byddwch yn defnyddio’r gwefannau hyn.

 

Ymwadiad

 

Darperir gwefan, gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) ‘fel y mae’ heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a wneir a heb warant o unrhyw fath p’un a yw’n ddatganedig neu’n ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r gwarantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, peidio â thorri, cydnawsedd, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd a gynhwysir yn y wefan hon yn ddi-dor neu’n ddi-wall, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan hon neu’r gweinydd sy’n ei gwneud ar gael yn rhydd o firysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb llawn, cywirdeb, dibynadwyedd y deunyddiau. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod mewn unrhyw achos, gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, nac unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy’n deillio o ddefnyddio neu golli defnydd, data neu elw, sy’n deillio o neu mewn cysylltiad â defnyddio gwefan ACGCC.

 

Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuedig lysoedd Cymru a Lloegr.