Pwy ydym ni

Rydym yn gyfrifol am reoli, cynnal a gwella’r priffyrdd A strategol, a elwir yn gefnffyrdd, ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae pawb sy’n gweithio yn Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, o’r rhai sy’n gwella’r rhwydwaith ffyrdd strategol i’r rhai sy’n ei batrolio, yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio dyfodol teithiau yng Nghymru a chadw ein defnyddwyr ffyrdd yn ddiogel.

Pam ymuno â ni?

  • Effaith ystyrlon:

    Cyfrannu at wella priffyrdd A, wrth gael effaith gadarnhaol ar fywydau cymunedau yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

  • Arloesedd:

    Byddwch yn rhan o dîm blaengar sy’n croesawy technolegau arloesol ac arferion cynaliadwy.

  • Diwylliant Cydweithredol:

    Gweithio mewn amgylchedd cynhwysol lle mae cydweithio a gwaith tîm yn cael eu dathlu.

  • Twf Proffesiynol:

    Rydym yn buddsoddi yn natblygiad ein gweithwyr, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa a gwella sgiliau.

Y bobl tu ôl i’r asiant

“Mae’r diwylliant o fewn ACGCC yn un cadarnhaol iawn. Mae pawb yn gyfeillgar iawn ac mae’n lle eithaf deinamig i weithio. Mae pobl eisiau gwella nid yn unig eu hunain ond yr asiantaeth.”

Rheolwr Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol

“Mae’n ffordd wych o weithio a gallu aros yn eich ardal leol, heb orfod symud i ffwrdd o Gymru. Mae’n ymdeimlad mawr o falchder pan fyddwch chi’n gweld go iawn bod damweiniau’n lleihau.”

Rheolwr Prosiect a Rhaglen Asedau Technoleg

“’Mae’n swydd ddelfrydol, os ydw i’n bod yn onest gyda chi. Rwy’n cael fy nhalu am rywbeth rwy’n mwynhau ei wneud ac yn awyddus iawn i ddod i’r gwaith, ac rwy’n ceisio gwneud gwahaniaeth i’m hardal.”

Rheolwr Llwybr Cynorthwyol

“Rwyf wrth fy modd â’r apêl o beidio â gwybod beth fyddwch chi’n ei wynebu y diwrnod hwnnw. Gweithio y tu allan a helpu pobl. Gyrru’r tîm ymlaen i gyflawni’r nod uchod wrth gynnal diogelwch.”

Rheolwr Tîm Gweithrediadau

“Rwy’n credu bod y gwaith y mae’r asiantaeth yn ei wneud yn hanfodol. Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli pa mor bwysig ydy o, wrth gael pobl i ysgolion, ysbytai. Nid yw’r gwaith yn ymwneud â ffyrdd yn unig. Mae’n hanfodol i fywyd bob dydd.”

Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni DBFO

“Does dim byd na allwch ei gyflawni yn y swydd hon gydag ychydig o hyfforddiant ac ychydig o anogaeth.”

Swyddog Traffig

Swyddi gwag

Os ydych chi’n angerddol am eich gwaith ac am gael effaith gadarnhaol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, darganfyddwch fwy am weithio gyda ni isod.