Ein gweledigaeth yw cynnal a gweithredu rhwydwaith ffyrdd y gall Cymru fod yn falch ohono trwy gadw ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn a drwy weithredu mewn modd amgylcheddol gyfrifol a chynaliadwy.
Ein cenhadaeth yw sbarduno gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith cefnffyrdd diogel a dibynadwy o ansawdd uchel ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru, gan alluogi symudiadau traffig ar draws y rhanbarth, a chefnogi economi, iaith a chysylltu cymunedau ledled Cymru.