Prentisiaethau

P’un a ydych yn chwilio am Gynllun Prentis neu Gynllun Graddedigion, cewch gyfle i ddatblygu eich gyrfa drwy weithio gyda phobl brofiadol, dysgu sgiliau newydd yn y swydd ac ennill profiad ymarferol wrth gwblhau cymwysterau perthnasol i’ch swydd a chael eich talu ar yr un pryd i ddatblygu eich gyrfa yn y dyfodol. Mae ACGCC yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth a hyfforddiant i raddedigion yn rheolaidd.

Yn Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru rydym yn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a’u profiadau a manteisio ar lwybrau posib drwy’r cynllun prentisiaeth cyffrous hwn.

Rydym yn ymdrin ag ystod eang o ddisgyblaethau gan gynnwys Peirianneg Sifil, Cyllid a Gwyddor Data mewn Technoleg Gwybodaeth a llawer mwy. Mae hyn yn darparu ystod amrywiol o gyfleoedd i brentisiaid ddatblygu eu llwybr gyrfa dewisol gyda’r potensial i symud ymlaen i lefel gradd a thu hwnt, a datblygu sgiliau sy’n hanfodol i’r swydd ac ennill profiadau gwerthfawr.

Mae’r swyddi ar gyfer 2024 yn fyw. Lot fawr o gyfleoedd cyffrous ar gael. Gweler isod y pecyn gwybodaeth ar gyfer y Swyddi sydd ar gael.

Mae Swyddi’r Asiant i weld ar tudalennau 16 – 21 a 38 – 45

Cliciwch Yma

Profiad y prentisiaid

“Mae bod yn brentis i’r asiant yn ffordd dda o ennill fy nghymwysterau a dysgu yn y gweithle, mae gweithio i’r asiantaeth yn gwneud i chi deimlo fel rhan o’r tîm, ac rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Mae gweithio gyda’r asiantaeth yn gwneud i chi sylweddoli faint o waith sy’n mynd i gadw’r ffyrdd yn weithredol, ac rwy’n ei weld yn ddiddorol iawn.”

Prentis Gradd Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol

Mae’n gyffrous iawn achos mae’n sefydliad mor fawr ac rydych chi’n gwybod eich bod chi’n gwneud gwahaniaeth.

Prentis Gradd Ddigidol Seibr-ddiogelwch

“Byddwn yn argymell yn gryf i rywun gwblhau prentisiaeth gan ei fod yn gyfle gwych i ddysgu a gweithio wrth gwblhau gradd noddedig.”

Prentis Gradd Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol

“Dechreuais gydag ACGCC fel prentis busnes, llwyddais i gael swydd llawn amser ar ôl cwblhau fy mhrentisiaeth ac rwyf bellach yn dilyn cwrs cyfrifeg.  Mae’r gefnogaeth i ddatblygu fy ngyrfa ymhellach yn rhagorol ac ni allwn ofyn am fwy gan gyflogwr! “

Prentis Busnes