Datganiad Hygyrchedd ar gyfer ACGCC.cymru

Defnyddio’r wefan hon

Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  •  newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
    •    nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
    •    gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
    •    gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
    •    gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
•    nid yw rhai elfennau map yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin

Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon

Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
•    e-bostiwch ymholiadau@acgcc.org.uk

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

  •  Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â:  ymholiadau@acgcc.org.uk

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae ACGCC wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

Problemau ag elfennau rhyngweithiol a thrafodion

Nid yw rhai elfennau mapiau yn gwbl hygyrch â darllenwyr sgrin, oherwydd mae angen rhyngweithio â’r map er mwyn arddangos blychau.

Rydym yn gweithio gyda’n cyflenwyr trydydd parti i wella’r agwedd hon yn y dyfodol.