Gwasanaeth Traffig Cymru – Cydlynydd Cyfathrebu Cyfnod Mamolaeth

Temporary
Conwy
Wedi ei gyhoeddi 1 month yn ôl

Cyflog: £24,294 – £25,979
Hyd: Cyfnod mamolaeth

Lleoliad: Conwy

DYDDIAD CAU: 26/09/24

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076

Am y Rôl

Ynglŷn â Thraffig Cymru

Traffig Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru.

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cyfathrebu brwdfrydig i ymuno â’r gwasanaeth. Byddwch yn gyfathrebwr penigamp, gyda’r sgiliau i greu cynnwys difyr ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol arbennig.

Fel Cydlynydd Cyfathrebu, byddwch yn gweithio ar y rheng flaen i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr ffyrdd Cymru. Dyma rôl hollbwysig i’r gwasanaeth, ac rydym yn chwilio am unigolyn hyderus a chreadigol sy’n gallu gweithio’n annibynnol.

Mae natur ein gwaith yn golygu bod yn rhaid i chi allu gweithio’n ymatebol yn ystod digwyddiadau mawr, gan gynnal lefel uchel o gyfrinachedd a disgresiwn.

Disgwylir i’r ymgeisydd i weithio sifftiau 12 awr ar sail 4 diwrnod i ffwrdd, i ddarparu gwasanaeth rhwng 7:00 am a 7:00 pm. Disgwylir hefyd i ymgeiswyr weithio dros nos ar sail rota ar ddyletswydd.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Dyddiad Cau: 26/09/24 10:00am

Am bwy rydym yn chwilio

Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol

  • Sgiliau cyfathrebu da yn Gymraeg a Saesneg
  • Arddangos mentergarwch personol arwyddocaol a’r gallu i ymdrin â phobl ar bob lefel yn gwrtais, sensitif, a phroffesiynol
  • Gallu i flaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun. Gallu i reoli a blaenoriaethu gwaith a thasgau
  • Gallu i weithio o dan bwysau a gallu ymdrin â dyddiadau cau llym.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol            

  • Pump TGAU o leiaf, yn cynnwys Saesneg a Chymraeg.

Profiad perthnasol
Hanfodol

  • Profiad mewn swydd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
  • Profiad mewn gweithredoedd gweinyddu swyddfa mewn amgylchedd swyddfa brysur
  • Sgiliau datblygu a golygu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol            

  • Cyfarwydd gyda phecynnau cyfrifiadurol e.e. Windows, Excel, ac ati.
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac ysgrifenedig
  • Y gallu i gyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg
  • Trwydded yrru lawn a glân.

Gofynion ieithyddol

Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryCyfathrebu
Salary£24294 - £25979 Bob Blwyddyn