Uwch Ecolegydd

Llawn Amser
Aberystwyth, Bangor, Conwy, Dolgellau, Drenewydd, Helygain, Llandrindod
Wedi ei gyhoeddi 1 wythnos yn ôl

Cyflog: £46,142 – £48,226

Hyd: Parhaol

LLEOLIAD / LOCATION : Bangor, Conwy, Halkyn, Dolgellau, Aberystwyth, Newtown, Llandrindod

DYDDIAD CAU: 24/07/26

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076

Am y Rôl

Bydd yr Uwch Ecolegydd yn darparu cyngor a chymorth ecolegol proffesiynol i dimau a phartneriaid Asiant Cefnffyrdd, gan sicrhau bod gweithrediadau cyfalaf a chynnal a chadw yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol wrth wneud y mwyaf o gyfleoedd i wella bioamrywiaeth, gan gynnwys cefnogi gofynion Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Llwybr Newydd i Natur. Byddwch yn cefnogi’r Rheolwr Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd a thimau ehangach wrth ddatblygu a gweithredu strategaethau, polisïau a rhaglenni gwaith amgylcheddol sy’n diogelu, rheoli a chynnal yr ystâd feddal.

Bydd y rôl yn cynnwys sicrhau trwyddedau rhywogaethau a safleoedd gwarchodedig, caniatadau a chydsyniadau lle bo angen, gan sicrhau bod yr holl ofynion cysylltiedig o ran arolygon, monitro ac adrodd yn cael eu bodloni, yn ogystal â datblygu trwyddedau Rhaglen Waith ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig ar draws y rhwydwaith a systemau adrodd sy’n bodloni gofynion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Byddwch yn rheoli ac yn gwella’r broses o nodi a lliniaru cyfyngiadau amgylcheddol (TRECS), yn goruchwylio’r broses o gofnodi anifeiliaid gwyllt sydd wedi’u lladd ar y ffyrdd ac yn defnyddio’r data i nodi cyfleoedd ar gyfer mesurau lliniaru, gan gynnwys cyflwyno seilwaith priodol i hwyluso symudiad diogel bywyd gwyllt ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol. Byddwch hefyd yn rheoli cyllidebau a phrosiectau sy’n ymwneud â gwaith lliniaru a gwella ecolegol ac amgylcheddol, yn hyrwyddo arloesedd amgylcheddol ar draws yr asiant a’i gadwyn gyflenwi, ac yn monitro’r modd y caiff gofynion amgylcheddol Prosiect DBFO A55 Ynys Môn eu cyflawni’n effeithiol.

Am bwy rydym yn chwilio

Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol

Gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm.

Wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella’r amgylchedd a hyrwyddo bioamrywiaeth

Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a gallu gweithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib, a bod â sgiliau rheoli amser a threfnu da.

Gallu gwneud gwaith arolygu ar y safle, yn aml mewn ardaloedd sydd wrth ymyl cefnffyrdd cyflym.

Gallu rheoli prosiectau a chyflawni targedau angenrheidiol mewn rhaglenni ac ati

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol            

Gradd neu gyfwerth mewn Ecoleg neu faes arbenigol perthnasol

Profiad perthnasol
Hanfodol

O leiaf pum mlynedd o brofiad o weithio mewn swydd sy’n gysylltiedig â’r Amgylchedd neu Ecoleg.

Profiad o asesu effaith prosiectau/gweithgareddau ar yr amgylchedd a bioamrywiaeth

Profiad o gynghori ar reoli cynefinoedd a gofynion rhywogaethau

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol         

Gwybodaeth fanwl am gynefinoedd a rhywogaethau’r DU

Gwybodaeth fanwl am Ddeddfwriaeth y DU ac Ewrop sy’n berthnasol i fywyd gwyllt, Bioamrywiaeth ac ati

Gallu adnabod ac asesu cynefinoedd â blaenoriaeth a chynefinoedd sensitif a gwneud argymhellion i’w gwella

Gallu esbonio gwybodaeth amgylcheddol dechnegol yn glir i staff nad ydynt yn arbenigwyr

Dealltwriaeth o TG mewn ystod o systemau TG, gan gynnwys rheoli a dehongli data GIS.

Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch

Sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i ddelio â’r cyhoedd a swyddogion eraill mewn ffordd sensitif

Gallu goruchwylio a chyfarwyddo staff

Gallu gweithio fel rhan o dîm bach, gan ddarparu cefnogaeth i eraill, a gweithio ar ei ben ei hun gyda chyn lleied â phosib o oruchwyliaeth.

Rhaid i ymgeiswyr gael drwydded yrru gyfredol lawn

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryAmgylcheddol
Salary£46142 - £48226 Bob Blwyddyn