Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni – Palmentydd

Llawn Amser
Aberystwyth, Bangor, Conwy, Dolgellau, Drenewydd, Helygain, Llandrindod
Wedi ei gyhoeddi 2 wythnosau yn ôl

Cyflog: £46,142 – £48,226

Hyd: Parhaol

LLEOLIAD: un o’r lleoliadau canlynol – Helygain, Conwy, Bangor, Llandrindod, Dolgellau, Aberystwyth, Newtown, i gynnwys gweithio
hybrid 

DYDDIAD CAU: 06/08/26

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076

Am y Rôl

Cyfle cyffrous i ymuno â thîm sefydledig o Rheolwyr Brosiect a Rhaglen sy’n darparu prosiectau cyfalaf ar y rhwydwaith Cefnffyrdd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain ar reoli prosiectau gwella Priffyrdd, uwchraddio a phrosiectau cyfalaf cynnal a chadw, trwy ein cadwyni cyflenwi estynedig yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’r swydd yn elwa o’n model gweithio hybrid gyda’r cyfle i weithio gartref.

Am bwy rydym yn chwilio

Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol

Gallu gweithio dan bwysau

Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun

Gallu derbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiol ffynonellau.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a meddu ar y gallu i weithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol            

Gradd neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol

neu⁠

HNC neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol a phrofiad perthnasol sylweddol.

Profiad perthnasol
Hanfodol

Profiad perthnasol wrth reoli a chyflawni cynlluniau gwella peirianneg palmentydd ac isadeiledd

Profiad o gydlynu a rheoli rhaglenni gwaith

Profiad o weinyddu contractau a chaffael prosiectau

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol         

Y gallu i drefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib

Y gallu i gydlynu a rheoli’n effeithiol y broses o gyflawni rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth i derfynau amser penodedig

Ymgymryd â dyletswyddau’n hyderus ac yn broffesiynol, gyda’r gallu i ddangos arloesedd a chreadigrwydd

Y gallu i dderbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amryw o ffynonellau, a darparu argymhellion manwl

Gwybodaeth fanwl am reoli prosiectau a phrosesau allweddol wrth gyflwyno prosiectau unigol mewn amgylchedd peirianyddol neu adeiladu

Profiad wrth asesu diffygion wyneb y ffordd a chyflawni cynlluniau gwella peirianneg palmentydd ac isadeiledd

Trwydded Yrru gyfredol

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryArchwilio, Arolygwyr, Peirianneg, Prosiectau
Salary£46142 - £48226 Bob Blwyddyn