Datganiad Hygyrchedd ar gyfer ACGCC.cymru
Defnyddio’r wefan hon
Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
• nid yw rhai elfennau map yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon
Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
• e-bostiwch ymholiadau@acgcc.org.uk
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae ACGCC wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.
Problemau ag elfennau rhyngweithiol a thrafodion
Nid yw rhai elfennau mapiau yn gwbl hygyrch â darllenwyr sgrin, oherwydd mae angen rhyngweithio â’r map er mwyn arddangos blychau.
Rydym yn gweithio gyda’n cyflenwyr trydydd parti i wella’r agwedd hon yn y dyfodol.