Cyflog: £24,294 – £25,979
Hyd: Cyfnod mamolaeth
Lleoliad: Conwy
DYDDIAD CAU: 26/09/24
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076
DYDDIAD CAU: 26/09/24
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076
Ynglŷn â Thraffig Cymru
Traffig Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cyfathrebu brwdfrydig i ymuno â’r gwasanaeth. Byddwch yn gyfathrebwr penigamp, gyda’r sgiliau i greu cynnwys difyr ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol arbennig.
Fel Cydlynydd Cyfathrebu, byddwch yn gweithio ar y rheng flaen i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr ffyrdd Cymru. Dyma rôl hollbwysig i’r gwasanaeth, ac rydym yn chwilio am unigolyn hyderus a chreadigol sy’n gallu gweithio’n annibynnol.
Mae natur ein gwaith yn golygu bod yn rhaid i chi allu gweithio’n ymatebol yn ystod digwyddiadau mawr, gan gynnal lefel uchel o gyfrinachedd a disgresiwn.
Disgwylir i’r ymgeisydd i weithio sifftiau 12 awr ar sail 4 diwrnod i ffwrdd, i ddarparu gwasanaeth rhwng 7:00 am a 7:00 pm. Disgwylir hefyd i ymgeiswyr weithio dros nos ar sail rota ar ddyletswydd.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 26/09/24 10:00am
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Job Category | Cyfathrebu |
Salary | £24294 - £25979 Bob Blwyddyn |