Gwasanaeth Traffig Cymru – Cydlynydd Cyfathrebu dros dro (Cyfnod 8 mis)

Temporary
Conwy
Wedi ei gyhoeddi 1 wythnos yn ôl

Cyflog: £25,584 – £27,269
Hyd: Dros dro (cyfnod 8 mis)
Lleoliad: Conwy

DYDDIAD CAU: 07/08/25

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076

Am y Rôl

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cyfathrebu brwdfrydig i ymuno â’r gwasanaeth. Byddwch yn gyfathrebwr penigamp, gyda’r sgiliau i greu cynnwys difyr ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol arbennig.

Fel Cydlynydd Cyfathrebu, byddwch yn gweithio ar y rheng flaen i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr ffyrdd Cymru. Dyma rôl hollbwysig i’r gwasanaeth, ac rydym yn chwilio am unigolyn hyderus a chreadigol sy’n gallu gweithio’n annibynnol.

Mae natur ein gwaith yn golygu bod yn rhaid i chi allu gweithio’n ymatebol yn ystod digwyddiadau mawr, gan gynnal lefel uchel o gyfrinachedd a disgresiwn.

Disgwylir i’r ymgeisydd i weithio sifftiau 12 awr ar sail 4 diwrnod i ffwrdd, i ddarparu gwasanaeth rhwng 7:00 am a 7:00 pm. Disgwylir hefyd i ymgeiswyr weithio dros nos ar sail rota ar ddyletswydd

Am bwy rydym yn chwilio

Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol

Sgiliau cyfathrebu da yn Gymraeg a Saesneg

Arddangos mentergarwch personol arwyddocaol a’r gallu i ymdrin â phobl ar bob lefel yn gwrtais, sensitif, a phroffesiynol

Gallu i flaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun. Gallu i reoli a blaenoriaethu gwaith a thasgau

Gallu i weithio o dan bwysau a gallu ymdrin â dyddiadau cau llym.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol            

Pump TGAU o leiaf, yn cynnwys Saesneg a Chymraeg.

Profiad perthnasol
Hanfodol

Profiad mewn swydd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer

Profiad mewn gweithredoedd gweinyddu swyddfa mewn amgylchedd swyddfa brysur

Sgiliau datblygu a golygu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol         

Cyfarwydd gyda phecynnau cyfrifiadurol e.e. Windows, Excel, ac ati.

Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac ysgrifenedig

Y gallu i gyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg

Trwydded yrru lawn a glân.

Gofynion ieithyddol

Mae’r gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryCyfathrebu, Gweinyddiaeth
Salary£25584 - £27269 Bob Blwyddyn