Gwasanaeth Traffig Cymru (GTC) – Swyddog Cyfathrebu

Llawn Amser
Conwy
Wedi ei gyhoeddi 1 month yn ôl

Cyflog: £29,269 – £31,364
Hyd: Parhaol

Lleoliad: Conwy

DYDDIAD CAU: 26/09/24

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076

Am y Rôl

Ynglŷn â Thraffig Cymru

Traffig Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru.

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu creadigol a brwdfrydig i ymuno â’r tîm.

Prif ddyletswyddau:

  • Arwain tîm o Gydlynwyr Cyfathrebu, trefnu rotas, a sicrhau datblygiad parhaus staff.
  • Rheoli ymatebion i ymholiadau a chwynion gan y cyhoedd, gan sicrhau datrysiad amserol a bod gwybodaeth yn cael ei ledaenu’n gyson.
  • Sicrhau cynnwys dwyieithog o ansawdd uchel ar gyfer cylchlythyrau, cyfryngau cymdeithasol, a diweddariadau gwefan, gan gadw at safonau iaith.
  • Goruchwylio a gwella cynlluniau cyfathrebu’r gwasanaeth, gan sicrhau negeseuon clir, cyson ac effeithiol sy’n cyd-fynd â nodau a gwerthoedd Traffig Cymru.

Os oes gennych yr egni, ymrwymiad, a’r ddawn i wneud gwahaniaeth i’r cyhoedd sy’n teithio yng Nghymru, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Am bwy rydym yn chwilio

Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol

  • Y gallu i gyfathrebu’n glir ac yn effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Meddwl yn greadigol i ddatblygu strategaethau ac ymgyrchoedd cyfathrebu deniadol ac effeithiol.
  • Y gallu i deilwra arddulliau cyfathrebu i wahanol gynulleidfaoedd.
  • Y gallu i weithio ar y cyd fel rhan o dîm.
  • Hyfedredd wrth flaenoriaethu llwyth gwaith eich hun, arwain eraill a goruchwylio gwaith staff a reolir gan linell.
  • Y gallu i fentro, gweithio dan bwysau ac i ddelio â therfynau amser llym.
  • Lefel uchel o gywirdeb a sylw i fanylion ym mhob agwedd o waith.
  • Parodrwydd i ofyn am adborth a gwneud gwelliannau.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol            

  • O leiaf pump TGAU neu gymhwyster cyfwerth.
  • Profiad mewn cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, marchnata, neu faes cysylltiedig.
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus mewn cyfathrebu, megis cyrsiau perthnasol, gweithdai, neu ardystiadau.

Profiad perthnasol
Hanfodol

  • Y gallu i droi gwybodaeth gymhleth am weithgareddau a llwyddiannau Traffig Cymru yn straeon difyr sydd o ddiddordeb i gynulleidfaoedd amrywiol.
  • Profiad o greu gwahanol fathau o gynnwys, gan gynnwys adroddiadau, erthyglau, cylchlythyrau, a deunyddiau hyrwyddo.
  • Profiad o greu a rheoli cynnwys proffesiynol ar gyfer gwefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol.
  • Gwybodaeth am reoli data mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid.
  • Profiad o weithio tuag at arferion sicrhau ansawdd sy’n berthnasol i gyfathrebu.
  • Y gallu i ddatblygu a monitro dangosydd perfformiad allweddol i fesur a gwella perfformiad cyfathrebu.
  • Profiad o reoli rota i gynnal y gwasanaeth.
  • Profiad o ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys swyddogion y llywodraeth, grwpiau cymunedol a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol            

  • Hyfedredd wrth ddefnyddio offer digidol a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
  • Dealltwriaeth o dueddiadau cyfathrebu digidol ac arferion gorau.
  • Sgiliau rhyngbersonol cryf i adeiladu a chynnal perthnasoedd â chydweithwyr, rhanddeiliaid a’r cyhoedd.
  • Dangos gallu i gyfieithu cynnwys yn gywir ac yn effeithiol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yng nghyd-destun egwyddorion Cymraeg Clir a ‘Plain English’.
  • Yn gyfarwydd â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data.
  • Ymwybyddiaeth o strwythurau llywodraeth leol a chanolog, ynghyd â gwerthfawrogiad o’u gofynion cyfathrebu.

Gofynion ieithyddol

Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryCyfathrebu
Salary£29269 - £31364 Bob Blwyddyn