Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol
Yn gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i’w gymell ei hun
Hyblygrwydd wrth weithio shifftiau a gallu i weithio dros amser / newid shifft yn rhesymol pan fo’n ofynnol er mwyn diwallu galw gweithredol
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
O leiaf 5 TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, gradd C neu uwch, neu gymhwyster cyffelyb mewn pwnc perthnasol.
Neu
Profiad helaeth mewn amgylchedd ystafell reoli / gweithredol
A
Rhaid cwblhau Pecyn Hyfforddi Twneli ACGChC sy’n gyfwerth ag NVQ Lefel 3 ymhen dwy flynedd o’r penodiad.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio mewn amgylchedd gweithredol neu wasanaethol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu i gofnodi a logio data a gwybodaeth ar y pryd
Gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol
Sgiliau trefnu da
Creadigrwydd a sgiliau datrys problemau
Gallu addasu’n gyflym i sefyllfaoedd sy’n newid
Sgiliau TG da gyda’r gallu i ddefnyddio TG a rhaglenni technoleg
Gallu i’ch ysgogi eich hun a datblygiad proffesiynol parhaus amlwg
Gallu i weithio dan amgylchiadau all fod yn heriol a rheoli gwrthdaro’n effeithiol
Gallu i ddefnyddio a rheoli adnoddau
Bod ag agwedd ‘diogelwch yn gyntaf’ i weithgareddau
Trwydded Yrru ddilys gyfredol yn y DU.
Gofynion ieithyddol
Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol a’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon