Gweithredwr Ystafell Rheoli a Danfonwr Swyddog Traffig

Llawn Amser
Conwy
Wedi ei gyhoeddi 3 wythnosau yn ôl

Cyflog: £38,497 – £41,254
Hyd: Parhaol 42 awr
Lleoliad: Canolfan Rheoli Traffig, Conwy

DYDDIAD CAU: 17/10/24

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076

Am y Rôl

Mae rôl swyddogaeth ddeuol Gweithredwr Ystafell Reoli a Danfonwr Swyddog Traffig yn rhan o dîm sy’n gyfrifol am reoli digwyddiadau ar y Rhwydwaith Cefnffyrdd yn ddiogel ac yn effeithlon.

Fel Gweithredwr yr Ystafell Reoli byddwch yn gyfrifol am fonitro ein Rhwydwaith Twneli a’n rhwydwaith ffyrdd ehangach i nodi digwyddiadau a phroblemau a chymryd camau priodol. Byddwch yn monitro ac yn gweithredu nifer o systemau twnnel a rheoli trafnidiaeth deallus a byddwch yn ymateb i ddigwyddiadau brys i sicrhau diogelwch bywyd. Byddwch yn gyfrifol am ddosbarthu gwybodaeth hanfodol i randdeiliaid mewnol ac allanol er mwyn hwyluso datrys digwyddiadau yn ddiogel.

Fel Anfonwr Swyddogion Traffig byddwch yn gyfrifol am leoli a chefnogi Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru wrth ymateb i ddigwyddiadau a digwyddiadau ar y rhwydwaith.

Mae’r ddwy rôl yn gofyn am sgiliau cyfathrebu rhagorol, y gallu i weithio dan bwysau a gwneud penderfyniadau wrth logio gwybodaeth yn gywir o fewn system reoli.

Am bwy rydym yn chwilio

Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol

Yn gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau

Yn ymroddgar ac â’r gallu i’w gymell ei hun

Hyblygrwydd wrth weithio shifftiau i gynnwys dydd a nôs a gallu i weithio dros amser / newid shifft yn rhesymol pan fo’n ofynnol er mwyn diwallu galw gweithredol

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol            

O leiaf 5 TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, gradd C neu uwch, neu gymhwyster cyffelyb mewn pwnc perthnasol.

Neu

Profiad helaeth mewn amgylchedd ystafell reoli / gweithredol

A

Rhaid pasio yn llwyddiannus:

  • Swyddogaeth Danfonwr Swyddog Traffig o fewn pedwar mis i’r penodiad.
  • Y Pecyn Hyfforddi Twneli sy’n cyfateb i NVQ Lefel 3 o fewn chwe mis i’r penodiad.
  • Diploma Lefel 3 mewn Gweithrediadau Twneli o fewn 2 flynedd i’r penodiad.

Profiad perthnasol
Hanfodol

Profiad o weithio mewn amgylchedd gweithredol neu wasanaethol.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol            

Gallu i gofnodi a logio data a gwybodaeth ar y pryd

Gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm

Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol

Sgiliau trefnu da

Creadigrwydd a sgiliau datrys problemau

Gallu addasu’n gyflym i sefyllfaoedd sy’n newid

Sgiliau TG da gyda’r gallu i ddefnyddio TG a rhaglenni technoleg.  Mae angen cyflymder teipio o leiaf 30 Gair y Munud ar gyfer y rôl

Gallu i’ch ysgogi eich hun a datblygiad proffesiynol parhaus amlwg

Gallu i weithio dan amgylchiadau all fod yn heriol a rheoli gwrthdaro’n effeithiol

Gallu i ddefnyddio a rheoli adnoddau

Bod ag agwedd ‘diogelwch yn gyntaf’ i weithgareddau

Trwydded Yrru ddilys gyfredol yn y DU.

Gofynion ieithyddol

Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol a’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryYstafell Reoli
Salary£38497 - £41254 Bob Blwyddyn