Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni

Llawn Amser
Aberaeron, Bangor, Conwy, Dolgellau, Drenewydd, Helygain, Llandrindod
Wedi ei gyhoeddi 3 misoedd yn ôl

Cyflog: £44,711 – £46,731
Hyd: Parhaol
Lleoliad: Halkyn, Conwy, Bangor, Llandrindod, Dolgellau, Aberaeron, Newtown, i gynnwys gweithio hybrid

DYDDIAD CAU: 06/02/25

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076

Am y Rôl

Cyfle cyffrous i ymuno â thîm sefydledig o Rheolwyr Brosiect a Rhaglen sy’n darparu prosiectau cyfalaf ar y rhwydwaith Cefnffyrdd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru.  Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain ar reoli prosiectau gwella Priffyrdd, uwchraddio a phrosiectau cyfalaf cynnal a chadw, trwy ein cadwyni cyflenwi estynedig yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.  Mae’r swydd yn elwa o’n model gweithio hybrid gyda’r cyfle i weithio gartref.

Am bwy rydym yn chwilio

Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol

  • Gallu gweithio dan bwysau
  • Yn ymroddgar â’r gallu i gymell ei hun
  • Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o ffynonellau amrywiol
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a meddu ar y gallu i weithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol            

  • Gradd neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol
  • neu
  • HNC neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol a phrofiad perthnasol sylweddol

Profiad perthnasol
Hanfodol

  • Profiad perthnasol mewn reoli a chyflawni cynlluniau gwella isadeiledd
  • Profiad o gydlynu a rheoli rhaglenni gwaith
  • Profiad o weinyddu contractau a prosiectau chaffael

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol            

  • Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
  • Gallu cydlynu a rheoli’n effeithiol y broses o gyflwyno rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth i derfynau amser penodedig
  • Ymgymryd â dyletswyddau’n hyderus ac yn broffesiynol, gyda’r gallu i ddangos arloesedd a chreadigedd
  • Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o amryw o ffynonellau, a darparu argymhellion manwl
  • Gwybodaeth fanwl am reoli prosiectau a phrosesau allweddol wrth gyflwyno prosiectau unigol mewn amgylchedd peirianyddol neu adeiladu
  • Trwydded yrru gyfredol

Gofynion ieithyddol

Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol a’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryStrwythurau
Salary£44711 - £46731 Bob Blwyddyn