Peiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau – dim ardystiedig

Llawn Amser
Bangor, Conwy, Helygain, Llandrindod
Wedi ei gyhoeddi 6 diwrnodau yn ôl

Cyflog: £37,280 – £39,152
Hyd: Parhaol
Lleoliad: Bangor/Conwy/Llandrindod/Halkyn/Aberaeron/Aberystwyth i gynnwys gweithio hybrid

DYDDIAD CAU: 19/09/25

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076

Am y Rôl

Cynorthwyo’r Uwch Beiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau i reoli archwiliad strwythurau Cefnffyrdd a’r rhaglenni cynnal a chadw strwythurau priffyrdd arferol ar gyfer oddeutu 2400 o strwythurau. Cymryd rôl arweiniol i sicrhau y cyflawnir gofynion llwyddiannus Llawlyfr cynnal a chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a CS 450 yn llwyddiannus.

Am bwy rydym yn chwilio

Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol

Gallu gweithio dan bwysau. Gallu ysgogi staff ar bob lefel.

Sgiliau trefnu da

Yn gallu cymell chi eich hun, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig

Yn gallu gweithio a chyfrannu’n effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol

Yn gallu gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth

Arddangos mentergarwch personol a’r gallu i ddelio â phobl ar bob lefel mewn modd cwrtais a phroffesiynol

Sgiliau rhyngbersonol da

Yn gallu blaenoriaethu a gweithio dan bwysau ac yn gallu delio â therfynau amser gwaith

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol            

HNC ynghyd â phrofiad o gynnal a chadw ac archwilio strwythurau priffyrdd NEU radd mewn Peirianneg Sifil/Strwythurol.

Parodrwydd i symud ymlaen yn weithredol tuag at Gynllun Sector Cenedlaethol 31 mewn Arolygu Strwythurau Priffyrdd.

Profiad perthnasol
Hanfodol

Profiad o ddylunio, archwilio neu gynnal a chadw strwythurau priffyrdd

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol         

Sgiliau TG, defnyddio rhaglenni Microsoft Office gan gynnwys Word ac Excel

Gwybodaeth o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a gweithredu technegau rheoli risg.

Trwydded yrru gyfredol

Gofynion ieithyddol

Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol a’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryStrwythurau
Salary£37280 - £39152 Bob Blwyddyn