Peiriannydd Trydanol

Llawn Amser
Conwy
Wedi ei gyhoeddi 12 misoedd yn ôl

Cyflog: £34,834 – £36,648.
Hyd: Parhaol 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Conwy

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076.

Am y Rôl

Mae gan ACGChC gyfle cyffrous i ymgeisydd brwdfrydig ymuno â’n tîm technoleg deinamig. Mae’r swydd barhaol hon yn addas iawn ar gyfer unigolyn sy’n edrych i symud ymlaen yn ei yrfa gyda rheoli seilwaith trydanol a rheoli asedau. Byddai’r swydd yn addas ar gyfer ymgeisydd sydd â sgiliau dadansoddi a datrys problemau cryf ac sy’n llawn cymhelliant ac yn gallu defnyddio ei fenter ei hun i gwblhau tasgau.

Elfen allweddol o’r rôl hon yw’r gallu i graffu’n gywir ar wybodaeth megis lluniadau technegol, manylebau a thystysgrifau. Byddai gan yr ymgeisydd delfrydol angerdd am osodiadau trydanol ac arloesi. Byddent yn cefnogi cyflawni prosiectau sy’n ymwneud â gosod seilwaith trydanol ar y rhwydwaith cefnffyrdd gan sicrhau bod gosodiadau yn bodloni’r lefelau ansawdd gofynnol yn ogystal â sicrhau eu bod yn cadw at y safonau perthnasol.

Byddai’r ymgeisydd hefyd yn cefnogi’r tîm gyda rheoli adnoddau, cyllidebau a chyswllt cleient/rhanddeiliaid. Bydd yr ymgeisydd yn cynorthwyo’r tîm i godi proffil galluoedd y tîm technoleg o fewn y sefydliad. Bydd yr ymgeisydd yn cael cyfleoedd i fod yn rhan o arferion gorau a safonau cyfredol a newydd sy’n ymwneud â chynllunio, dylunio a gweithredu datrysiadau trydanol a thechnoleg.

Rhaid i’r ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda’r gallu i addasu eich arddull i weddu i’ch cynulleidfa. Rhaid iddynt hefyd fwynhau gweithio’n agos gyda chleientiaid ac aelodau eraill o’r tîm proffesiynol a chefnogi’r tîm gyda datblygu datrysiadau sy’n rhagori ar ddisgwyliadau ein cleient.

Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad o weithio mewn amgylchedd cefnogol, gallu mynd i’r afael â phroblemau’n rhesymegol a defnyddio tystiolaeth i ddod o hyd i atebion neu argymhellion, bod yn gyfforddus wrth ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd, a dysgu’n gyflym sut i ddefnyddio systemau a rhyngwynebau newydd. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad a dealltwriaeth o systemau rheoli asedau, gosodiadau trydanol a Thechnolegau Microsoft megis Word, Excel a PowerBI.

Am bwy rydyn ni’n chwilio

Meini Prawf Penodol i’r Swydd
Hanfodol

Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu gweithio dan bwysau ac sydd â’r gallu i ysgogi staff ar bob lefel, gyda sgiliau trefnu da.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol

Rydym yn chwilio am rywun sydd â HNC (neu gyfwerth) mewn peirianneg Drydanol/Electronig neu 5 mlynedd o brofiad yn y diwydiant neu Radd mewn Peirianneg Drydanol/Electronig.

Profiad perthnasol
Hanfodol

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad mewn dylunio, archwilio a/neu gynnal a chadw asedau trydanol.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol

Chwilio am rywun sydd â sgiliau TG i ddefnyddio cyfres o raglenni Microsoft Office gan gynnwys Word ac Excel.

Gofynion iaith
Hanfodol

Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryPeirianneg, Trydanol
Salary£34834 - £36648 Bob Blwyddyn