Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes Busnes?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu a datblygu eu sgiliau wrth weithio. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGChC) yn sefydliad
dwyieithog deinameg ac yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru i reoli, cynnal a gwella’r rhwydwaith ffyrdd strategol yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Mae’r gwasanaeth yn ymdrin gydag oddeutu 1080 cilometr (670 milltir) yn cynnwys twnelau’r A55. Mae ACGChC yn gweithredu ar sail partneriaeth rhwng Awdurdodau Lleol Unedol gogledd Cymru a chanolbarth Cymru gyda Chyngor Gwynedd yn gweithredu fel yr Awdurdod Arweiniol i’r Bartneriaeth. Mae oddeutu 250 o staff ac fe leolir ein swyddfeydd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru, yn cynnwys Bangor, Conwy, Helygain, Wrecsam, Dolgellau, Llandrindod, Y Drenewydd ac Aberaeron.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig sydd newydd cwblhau TGAU neu Lefel A. Byddwn yn cefnogi’r person llwyddiannus i cwblhau cwrs Lefel 3 mewn Busnes a Gweinyddiaeth.