Mae gan ACGChC gyfle cyffrous i reolwr prosiect a rhaglen profiadol ymuno â’n tîm technoleg deinamig a chefnogi Rheolwr System Cludiant Deallus (ITS) a Thechnoleg Drydanol ACGChC i ddatblygu a chyflwyno’r rhaglenni cyfalaf a refeniw sy’n cwmpasu’r rhwydwaith cefnffyrdd yn Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Byddai’r swydd yn addas ar gyfer ymgeisydd sydd â sgiliau trefnu a rheoli cryf ac sy’n gallu ysgogi eu hunain ac sy’n gallu defnyddio eu menter eu hunain i gwblhau tasgau. Elfen allweddol o’r rôl hon yw’r gallu i reoli staff a’r gadwyn gyflenwi sy’n cynnwys darparwyr gwasanaethau awdurdodau lleol, ymgynghorwyr a chontractwyr. Bydd yr ymgeisydd yn defnyddio ei sgiliau i sicrhau bod y rhaglenni cyfalaf a refeniw blynyddol yn cael eu cyflawni o fewn y gyllideb, yn unol â’r rhaglen a bod y gwaith yn cael ei gwblhau i’r safonau ansawdd gofynnol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen gyfalaf a refeniw flynyddol sydd â gwerth cyfunol o tua £2M y flwyddyn. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn gyfrifol am reoli’r tîm ITS sy’n cynnwys 3 aelod o staff a fydd yn darparu cymorth technegol gyda rheoli’r gwaith. Rhaid i’r ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda’r gallu i addasu eich arddull i weddu i’ch cynulleidfa. Rhaid iddynt hefyd fwynhau gweithio’n agos gyda chleientiaid ac aelodau eraill o’r tîm technoleg gan sicrhau eu bod yn darparu datrysiadau sy’n rhagori ar ddisgwyliadau ein cleient.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad gyda meddalwedd rheoli prosiect yn ogystal â gallu defnyddio Microsoft Technologies fel Word, Excel, Project a PowerBI yn hyfedr. Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd yn gyfforddus yn defnyddio ystod o feddalwedd ac yn gallu dysgu’n gyflym sut i ddefnyddio systemau a rhyngwynebau newydd. Gan weithio i ACGChC byddwch yn profi amgylchedd gwaith cynhwysol, cyfeillgar a hyblyg lle caiff cydweithwyr eu hannog i dyfu a datblygu. Cyfle gyrfa ystyrlon a gwerth chweil lle byddwch yn helpu i drawsnewid cymdeithas. Manteision eraill o weithio gyda ni yw pensiwn sector cyhoeddus, gwyliau â thâl a gostyngiadau staff eraill.