Rheolwr Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Llawn Amser
Aberaeron, Drenewydd, Llandrindod
Wedi ei gyhoeddi 7 misoedd yn ôl

Cyflog: £49,498 – £51,515
Hyd: Parhaol 37 awr yr wythnos
Lleoliad: un o’r swyddfeydd isod;

Llandrindod, DreNewydd, Aberaeron

DYDDIAD CAU: 30/05/24

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076

Am y Rôl

Rydym yn chwilio am reolwr profiadol i gefnogi Rheolwr Rhwydwaith ACGChC ac i ymgymryd â rheoli a chynnal a chadw gweithredol rhwydwaith ffordd sengl a deuol y gefnffyrdd yn rhanbarth Canolbarth Cymru sy’n cwmpasu Powys a Cheredigion.

Cyflawni gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a chynnal Rhwydwaith diogel ac effeithlon ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae angen y rôl i reoli’r gwaith o ddarparu drwy Ddarparwyr Gwasanaethau Awdurdodau Lleol yn ogystal ag Ymgynghorwyr a Chontractwyr.

Byddwch yn arwain ar reoli’r Ymatebion Brys, Cynnal a Chadw Rheolaidd a Chynnal a Chadw Cyfalaf yn Rhanbarth Canolbarth Cymru, gan reoli Tîm Rheoli Llwybrau o 9 aelod o staff ynghyd â chynllun Prentisiaid.

Mae’r rôl yn cynnwys rheoli a chymryd rhan mewn gwasanaeth y tu allan i oriau.

Am bwy rydym yn chwilio

Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol

Y gallu i weithio dan bwysau.
Hunan-gymhellol ac ymrwymedig.
Y gallu i arwain tîm.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol            

Gradd mewn peirianneg sifil neu HND gyda phrofiad helaeth

Profiad perthnasol
Hanfodol

Profiad o staff / rheoli tîm mewn rôl uwch.
Profiad o gynnal a chadw priffyrdd a rheoli gweithredol.
Profiad profedig a phrofiad rheoli cyllideb.
Rheoli a gweinyddu contractau.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol            

Y gallu i drefnu blaenoriaethau gwaith, blaen-gynllunio a chyflwyno rhaglenni ar amser.
Sgiliau rhyngbersonol, ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno da.
Y gallu i addasu i ystod eang o faterion gweithredol.
Y gallu i dderbyn, cymhlethu a gwerthuso gwybodaeth o ffynonellau lluosog.
Y gallu i gydlynu a rheoli’r modd y caiff rhaglenni gwaith eu darparu’n effeithiol trwy ddarparwyr gwasanaethau gan sicrhau gwerth am arian a chyflawnir gofynion cydymffurfiaeth â gofynion Llywodraeth Cymru.
Sgiliau rheoli a dadansoddi ariannol.
Gwybodaeth fanwl am ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â rheoli’r briffordd a’i hasedau.
Dealltwriaeth fanwl o’r prosesau sy’n ofynnol i gyflawni swyddogaethau dirprwyedig ar ran y Cynulliad mewn perthynas â’r Ddeddf Ffordd Fawr a deddfwriaeth berthnasol arall.
Trwydded yrru ddilys gyfredol.

Gofynion ieithyddol

Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol a’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryRheolaeth, Rheolwyr Llwybrau
Salary£49498 - £51515 Bob Blwyddyn