Uwch Swyddog Gweithredol

Llawn Amser
Aberystwyth, Bangor, Conwy, Dolgellau, Drenewydd, Helygain, Llandrindod
Wedi ei gyhoeddi 2 diwrnodau yn ôl

Cyflog: £46,142 – £48,226

Hyd: Parhaol

LLEOLIAD: un o’r lleoliadau canlynol – Helygain, Conwy, Bangor, Llandrindod, Aberystwyth, Newtown, i gynnwys gweithio
hybrid 

DYDDIAD CAU: 20/08/26

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076

Am y Rôl

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ag Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGChC), gan weithio’n agos gyda’r uwch dîm rheoli i gyflwyno prosiectau strategol, ysgogi gwelliant a chefnogi’r gwaith o reoli un o rwydweithiau trafnidiaeth pwysicaf Cymru.

Bydd Yr Uwch Swyddog Gweithredol yn chwarae rhan allweddol mewn rheoli perfformiad, llywodraethu, cynllunio busnes ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan helpu i lunio dyfodol yr Asiantaeth a sicrhau newid ystyrlon ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Am bwy rydym yn chwilio

Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol

Yn dangos gwytnwch, penderfyniad a dycnwch wrth gyflawni amcanion, gyda’r hyder a’r gallu i yrru rhaglenni gwaith heriol yn annibynnol. Mae ganddo/ganddi sgiliau dadansoddol a threfnu cryf, mae’n hyblyg ac yn arloesol yn ei ddull, yn gallu herio’n adeiladol lle bo’n briodol, ac yn rhagori wrth ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol            

Gradd a/neu gymhwyster proffesiynol/rheoli cyfatebol.

Profiad perthnasol
Hanfodol

Yn meddu ar brofiad o reoli prosiectau, gyda gallu profedig i gynhyrchu dogfennau o ansawdd uchel, gan gynnwys adroddiadau ar gyfer amrywiol fforymau a phwyllgorau, papurau trafod, adolygiadau tystiolaeth ac achosion busnes. Mae’n fedrus wrth ddatblygu a chyflwyno achosion busnes, gan sicrhau bod pob dogfen wedi’i llunio’n glir ac yn briodol ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol         

Yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o strwythur a threfniadau’r Cyngor ac yr Asiant gyda’r gallu i gynrychioli’r Pennaeth ac yr Uwch Dîm Rheoli yn hyderus mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol. Mae ganddo/ganddi sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, sy’n galluogi gweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr ar bob lefel o’r sefydliad, ynghyd â phrofiad o reoli prosiectau a rhaglenni. Mae ganddo/ganddi ddealltwriaeth gadarn o reoli newid, gyda’r gallu i ddylanwadu ar randdeiliaid a’u rheoli’n effeithiol, ac mae’n hyddysg iawn mewn defnyddio pecynnau Microsoft Office, gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Outlook a Power BI.

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryRheolaeth
Salary£46142 - £48226 Bob Blwyddyn