Dathlu Rhagoriaeth: Mae NMWTRA yn Derbyn Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig

Mae NMWTRA yn falch o gael ei gydnabod eleni gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (NWFRS) drwy eu Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghanolfan Venue Cymru y mis diwethaf.
Mae’r wobr yn dathlu’r gwaith eithriadol a gyflawnwyd gan staff a phartneriaid NWFRS yn ystod tân Twnnel Conwy ym mis Mehefin 2025.

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dathlu’r ymrwymiad ar y cyd i ddiogelwch y cyhoedd ac yn tynnu sylw at gryfder y bartneriaeth a chyfraniad NMWTRA at yr ymateb i ddigwyddiad tân y twnnel.

Mae’r gydnabyddiaeth nid yn unig yn tynnu sylw at yr ymrwymiad ar y cyd i ddiogelwch y cyhoedd, ond mae hefyd yn adlewyrchu’r paratoad helaeth a’r cydweithio a ddigwyddodd ymhell cyn y digwyddiad. Mae NMWTRA yn cynnal ymarferion diogelwch twnnel blynyddol ac yn trefnu nifer fawr o sesiynau ymgyfarwyddo â thwneli gyda’r gwasanaethau brys drwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau bod pob partner wedi’u paratoi’n dda i ymateb yn effeithiol mewn sefyllfaoedd critigol.

Wrth sôn am y gamp, dywedodd Mark McNamara, Pennaeth Gwasanaeth NMWTRA: “Mae hwn yn gydnabyddiaeth wych o’r ymroddiad a’r gwaith caled y mae ein timau’n barod i’w wneud heb gwestiwn.
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at y llwyddiant hwn, o’r rhai a fu’n uniongyrchol gysylltiedig â’r digwyddiad, i’r timau niferus a roddodd gefnogaeth y tu ôl i’r llenni.”

Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at y llwyddiant hwn, o’r rhai a fu’n uniongyrchol gysylltiedig â’r digwyddiad, i’r timau niferus a roddodd gefnogaeth y tu ôl i’r llenni.”
Mae’r gwobrau blynyddol, a gyflwynir gan Arglwydd Raglaw Clwyd, yn anrhydeddu gwasanaeth hir ac ymddygiad da diffoddwyr tân a staff gweithredol. Maent hefyd yn ymestyn i gydnabod gwasanaeth ffyddlon mewn mentrau cymunedol, cyfraniadau eithriadol gan unigolion, a chydnabyddiaeth arbennig i staff a phartneriaid. They also extend to recognise loyal service community initiatives, outstanding contributions by individuals, and special recognition of staff and partners.

North Wales Fire and Rescue service Awards 30/9/25