Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol
Arweinyddiaeth, brwdfrydedd a’r gallu i ysgogi eraill.
Hunan-ymwybodol, emosiynol ddeallus.
Gwydn a phendant.
Cydweithredol
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd mewn pwnc perthnasol.
Peiriannydd Siartredig
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol ar gyfer Uwch Reolwyr
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad sylweddol ôl-siartredig gydag ymglymiad sylweddol mewn asedau isadeiledd a rheoli gweithredol ar lefel uwch. Profiad sylweddol o reolaeth ariannol, systemau a gweithdrefnau ariannol.
Hanes llwyddiannus o reoli niferoedd sylweddol o staff ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, rhaglenni arwyddocaol, cyllidebau, a gweinyddu Contractau.
Profiad o weithredu newid a gwelliant.
Profiad o weithio mewn maes gwleidyddol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gwybodaeth eang a dealltwriaeth o beirianneg a chynnal a chadw priffyrdd, yn cynnwys safonau technegol a gweithdrefnau.
Gwybodaeth helaeth am reolaeth weithredol gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau a swyddogaethau rheoli.
Dealltwriaeth fanwl a gwerthfawrogiad o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys rheoliadau CDM.
Y gallu i gydgysylltu a negodi gyda rhanddeiliaid ar bob lefel.
Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol.
Tystiolaeth o allu datrys problemau.
Trwydded yrru lawn, ddilys yn y DU.
Gofynion ieithyddol
Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol a’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon