Meini Prawf Penodol i’r Swydd
Hanfodol
Rydym yn chwilio am rywun sy’n hunan-gymhellol, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig, sy’n gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau gyda goruchwyliaeth gyfyngedig. Dylai fod gan y person sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i weithio a chyfrannu’n effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, a dylai ddangos menter bersonol a’r gallu i ymdrin â phobl ar bob lefel mewn modd cwrtais a phroffesiynol.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Rydym yn chwilio am rywun sydd â gradd mewn Peirianneg Sifil ynghyd â phrofiad perthnasol, neu radd neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol ynghyd â phrofiad perthnasol helaeth.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad mewn Archwilio neu Gynnal a Chadw Priffyrdd, profiad o ddefnyddio systemau rheoli data yn weithredol, yn ogystal â phrofiad o ddefnyddio amrywiaeth o galedwedd TG, rhaglenni meddalwedd, a phrofiad o reoli tîm.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Chwilio am rywun sy’n gallu dangos sgiliau rhyngbersonol lefel uchel ac ysgogi tîm, ac sydd â sgiliau cyfathrebu datblygedig, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a rhoi technegau rheoli risg ar waith yn hanfodol, yn ogystal â’r gallu i reoli newid a datblygu datblygiadau newydd yn llwyddiannus.
Gofynion iaith
Hanfodol
Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.