Rheolwr Uned Arolygu a Chyflewnol

Llawn Amser
Bangor, Conwy, Helygain, Llandrindod
Wedi ei gyhoeddi 2 misoedd yn ôl

Cyflog: £60,855 – £63,965
Hyd: Parhaol
Lleoliad: un o’r swyddfeydd isod;

Conwy, Bangor, Llandrindod, Halkyn

DYDDIAD CAU: 01/08/24

Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076

Am y Rôl

Rydym yn chwilio am uwch reolwr profiadol i ymuno ag Uwch Dîm Rheoli’r Asiantaeth i gefnogi’r Pennaeth Gwasanaeth ac i roi cyngor a mewnbwn i gyfeiriad strategol cyffredinol yr Asiantaeth. Byddwch yn arwain tîm amlddisgyblaethol o 57 o staff gan reoli’r swyddogaethau canlynol ar ran yr Asiantaeth ac yn unol â Chytundeb Asiantaeth Reoli Llywodraeth Cymru (WGMAA):

  • Tîm Cyflawni Prosiectau Cyfalaf – Rheoli swyddogaethau cyflenwi cyfalaf yr Asiantaeth ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bod yn gyfrifol am oruchwylio darpariaeth a chydlynu holl brosiectau cyfalaf amlddisgyblaethol yr Asiantaeth o’r dylunio hyd at y cyfnod adeiladu.
  • Timau Arolygu – Rheoli Archwilio Priffyrdd, Strwythurau ac Asedau Geotechnegol.

Am bwy rydym yn chwilio

Meini prawf penodol i’r swydd
Hanfodol

Sgiliau arwain tîm a dirprwyo.

Sgiliau penderfynu a negodi.

Gallu’ch ysgogi eich hun, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig.

Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol            

Gradd Peirianneg Sifil neu bwnc perthnasol.

Peiriannydd Sifil Siartredig neu gyfwerth.

Aelod corfforaethol o gorff proffesiynol perthnasol

Profiad perthnasol
Hanfodol

Profiad o reoli timau amlasiantaethol ar lefel uwch, gan gynnwys datblygu a rheoli cyllidebau perthnasol.

Profiad rheoli prosiect ar lefel uwch.

Profiad sylweddol o reoli adnoddau.

Profiad mewn gweinyddu contractau ar lefel uwch gyda gwybodaeth lefel uchel o weithdrefnau contract NEC3.

Profiad o reoli risg.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol            

Gwybodaeth eang o reoli asedau seilwaith archwilio cefnffyrdd gan gynnwys ffyrdd deuol cyflymder uchel, strwythurau priffyrdd, systemau draenio ac asedau geodechnegol.

Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gan gynnwys rheoliadau CDM.

Y gallu profedig o reoli prosiect a rheoli cyllid.

Sgiliau rheoli wedi’u profi.

Sgiliau caffael a gweinyddu contractau profedig.

Sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno da.

Yn gwbl wybodus o TG.

Trwydded yrru gyfredol

Gofynion ieithyddol

Mae’r gallu i siarad Saesneg yn hanfodol a’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon

  • Tanysgrifiwch i gael rhybuddion swydd

Job Features

Job CategoryArolygwyr, Rheolaeth, Strwythurau
Salary£60855 - £63965 Bob Blwyddyn