27 Aug Adeiladu Llwyddiant a Dyfodol Cryf
Yn dyst i waith caled ac ymrwymiad, rydym yn dathlu llwyddiant wrth gyhoeddi bod Callum Jones wedi ennill cymhwyster HNC mewn Peirianneg Sifil. Trwy ychwanegu’r arbenigedd hwn at y tîm, mae Callum yn barod i’n helpu i ddylunio a chyflawni prosiectau hyd yn oed yn fwy.
Ymunodd Callum â NMWTRA ychydig dros ddwy flynedd yn ôl yn ei rôl bresennol fel Technegydd Arolygydd o fewn yr Uned Strwythurau, ac mae ganddo gyfrifoldeb am gynnal Arolygiadau Cyffredinol a Phrif ar strwythurau ar draws y rhwydwaith.
Roedd Callum wedi bwriadu dilyn gyrfa mewn Seicoleg Chwaraeon, ar ôl cwblhau dwy flynedd o radd Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd; fodd bynnag, cymerodd ei yrfa lwybr gwahanol pan dderbyniodd swydd yn Awstralia.
Dywedodd Callum: “Treuliais dri mis yn gweithio fel profwr concrit i labordy ym Mherth. Mae’r profion yn asesu ansawdd, gweithiadd ac ymwrthedd concrit gan ddefnyddio dulliau ar y safle ac yn y labordy er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni manylebau dylunio a gofynion strwythurol. Y swydd hon a sbardunodd fy niddordeb mewn Peirianneg Sifil, ac fe roddodd sylfaen gadarn i mi ar gyfer cael y swydd gyda NMWTRA.”
Parhaodd: “Mae’r HNC yn gwrs dwy flynedd sydd wedi rhoi’r cyfle i mi symud ymlaen i radd BEng mewn Peirianneg Sifil ochr yn ochr â Chynllun Ardystio Arolygu Pontydd (BICS).”
O fewn ei rôl, mae Callum yn gyfrifol am gynnal Arolygiadau Cyffredinol a Phrif. Caiff y rhain eu dyrannu’n flynyddol ac maent yn cynnwys pontydd, twneli, cwlfertau, waliau cynnal, mastiau CCTV, pontydd arwyddion, VMS a phontydd troed.
Mae hon yn rôl hynod ymarferol sy’n gofyn am gynnal archwiliadau manwl, gyda phob diffyg yn cael ei gategoreiddio yn ôl difrifoldeb ac ehangder, ac yn cael ei adrodd drwy system rheoli asedau IRIS.
Wrth ddisgrifio ei brofiad yn NMWTRA, dywedodd Callum: “Mae’n dîm gwych, mae pawb yn gefnogol i’w gilydd ac mae’r cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol yn cael eu hannog yn fawr.”
Wrth sôn am ei gyflawniad, dywedodd rheolwr llinell Callum, Uwch Beiriannydd Cynnal a Chadw Strwythurau, Wyn Williams: “Dylai Callum fod yn falch iawn o’i gyflawniad academaidd, wrth ddatblygu ar yr un pryd ei wybodaeth a’i brofiad ymarferol. Mae Callum yn dod yn aelod cynyddol werthfawr o’r tîm, a bydd hyn yn parhau i’r dyfodol.”