Gosod y Sylfeini ar gyfer y Dyfodol

Llongyfarchiadau i Tomos Humphreys ar ennill yr HNC mewn Peirianneg Sifil.

Ymunodd Tomos â NMWTRA ym mis Gorffennaf 2023 fel Technegydd Arolygydd Strwythurau o fewn yr Uned Strwythurau. Mae ganddo gyfrifoldeb am arolygiadau Cyffredinol a Phrif Arolygiadau ar draws y rhwydwaith ac mae’n gweithio tuag at reoli ei raglen waith ei hun, a fydd yn gofyn am lefel o luniadu technegol.

Cyn ymuno â NMWTRA, bu Tomos yn gweithio gyda Chwmni Peirianneg Sifil Gelli. Yno, roedd ganddo gyfrifoldeb am weinyddu a dyletswyddau Iechyd a Diogelwch. Dywedodd Tomos: “Mae’r ddau frawd i mi yn Beirianwyr Sifil profiadol, ac roedd gennyf ddiddordeb erioed yn yr hyn yr oeddent yn ei wneud. Roedd bod ar y safle a gweld y strwythurau o safbwynt gwahanol i’r hyn rydym yn ei brofi fel aelodau o’r cyhoedd yn obaith cyffrous.”

Parhaodd Tomos: “Cyn dechrau’r cwrs, roedd gen i bryderon bod gan fyfyrwyr eraill lawer mwy o brofiad, ac roedd yn frawychus ar y dechrau. Roedd fy rheolwr llinell a thîm y Strwythurau yn gefnogol drwy’r amser, a helpodd hynny’n fawr.”

Ar ôl cyflawni Rhagoriaeth yn yr HNC, mae Tomos bellach yn mynd ymlaen i radd mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Liverpool John Moores gan ddechrau ym mis Medi 2025.

Wrth sôn am gyflawniad Tomos, dywedodd ei reolwr llinell, Matthew Ricketts, Uwch Reolwr Strwythurau: “Dylai Tomos fod yn falch iawn o lwyddo ei HNC gyda graddau mor dda. Mae hefyd yn profi ei fod yn aelod hynod werthfawr o’r tîm, gan ddynesu at bob tasg gyda brwdfrydedd. Llongyfarchiadau Tomos a phob lwc gyda’th astudiaethau sydd i ddod yn Lerpwl!”

Hoffai Tomos ddiolch i’w reolwr llinell, Matthew, a thîm Strwythurau Canolbarth am ei gefnogi drwy gydol ei HNC, ac i Callum a Matt am fod yn gyd-fyfyrwyr rhagorol yn ystod eu cyfnod yn y coleg.

Yn lle colli ei raddio, oherwydd ei fod yn dilyn Tîm Rygbi Cymru yn Japan, mae wedi anfon llun ohono’i hun gyda baner, yn hytrach na chap a gŵn graddio!