30 May NMWTRA Plannu Dyfodol
Mewn cam arwyddocaol tuag at wella bioamrywiaeth a chefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfer natur, mae asiantau ffyrdd cefnffyrdd Cymru wedi plannu mwy na 30,000 o goed brodorol, llwyni a phlanhigion cloddiau ar draws Cymru yn ystod tymor plannu y llynedd.
Yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, plannodd Asiantaeth Ffyrdd Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) 11,861 o goed a llwyni brodorol. Roedd hyn yn cyfateb i 1,926 o goed a 1,987 metr o gloddiau brodorol, gan ddefnyddio 9,935 o blanhigion unigol. Bydd y cloddiau hyn yn gweithredu fel coridorau bywyd gwyllt hanfodol ac yn torri gwynt naturiol, gan gyfrannu at sefydlogrwydd y pridd a dal carbon, tra’n atgyfnerthu treftadaeth naturiol y rhanbarth.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Adfer Natur Llywodraeth Cymru, Llwybr Newydd i Natur, sy’n canolbwyntio ar drawsnewid llain ymyl ffyrdd a llwybrau trafnidiaeth yn goridorau ecolegol llewyrchus. Mae’r fenter yn cefnogi adfer natur drwy blannu llystyfiant brodorol, gwella nodweddion ffiniau megis cloddiau a muriau cerrig, a chreu cynefinoedd gwell ar gyfer peillwyr, adar a mamaliaid bach.
Dewiswyd y rhywogaethau ar gyfer plannu yn ofalus am eu gwerth ecolegol a’u haddasrwydd i amodau pridd a hinsawdd leol. Mae’r holl waith plannu yn dilyn canllawiau arfer gorau i sicrhau sefydlu hirdymor a budd ecolegol.
Mae’r rhaglen blannu hon yn rhan o strategaeth amgylcheddol ehangach gan Lywodraeth Cymru a’i hasiantau ffyrdd cefnffyrdd i hyrwyddo seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy sy’n gweithio mewn cytgord â’r amgylchedd naturiol.