29 Sep Prentisiaid Uchelgeisiol yn Ymuno â NMWTRA
We would like to welcome three new Civil Engineering apprentices to the team.
Ymunodd Jack Goodwin â NMWTRA ar ôl y Chweched Dosbarth, lle astudiodd Ffiseg a Bioleg Lefel A, a BTEC mewn Peirianneg.
Roedd y cymhwyster BTEC yn rhoi sgiliau ymarferol a thechnegol i Jack ar draws amryw ddisgyblaethau peirianneg, gan ei baratoi ar gyfer y Brentisiaeth Peirianneg Sifil.
Wrth siarad am ei brentisiaeth, dywedodd Jack: “Roeddwn wedi blino ar addysg amser llawn ac nid oeddwn eisiau mynd i’r brifysgol. Roeddwn eisiau cael profiad gwaith yn y sector peirianneg. Clywais am y cyfleoedd prentisiaeth gyda NMWTRA a phenderfynais wneud cais.”
Y cam nesaf yn ei yrfa i Jack yw’r HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Sifil, cyn o bosibl ddilyn gradd.
Ymunodd Alaw Morgan â NMWTRA ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf ei Lefelau A a chymryd blwyddyn egwyl.
Wrth sôn am ei phenderfyniad i ddilyn gyrfa ym maes Peirianneg Sifil, dywedodd Alaw: “Mae aelod o’m teulu yn Uwch Beiriannydd ym maes Priffyrdd, ac mae gen i lawer o wybodaeth am yr hyn y mae’n ei wneud, ac mae hynny’n fy niddori’n fawr. Gwelais hysbyseb ar gyfer y brentisiaeth a phenderfynais fynd amdani.”
Yn y dyfodol, mae Alaw yn bwriadu cwblhau HNC mewn Peirianneg Sifil cyn symud ymlaen i radd.
Ymunodd Jess Shaw â NMWTRA ar ôl saith mlynedd o weithio ar uwch-yachtiau ledled y byd a theithio.
Paratôdd y profiad hwn Jess gyda sgiliau bywyd hanfodol sy’n berthnasol i’r gweithle, gan gynnwys datrys problemau, hyblygrwydd, sgiliau cyfathrebu, dyfeisgarwch a hyder.
Dywedodd Jess: “Roeddwn yn ffodus i weithio a theithio o amgylch y byd, ac rwyf wedi cael profiadau gwych sydd wedi rhoi sgiliau i mi y gallaf eu trosglwyddo i’r gweithle.
Roedd symud o gwmpas yn aml yn fy ngwaith yn golygu bod yn rhaid imi fod yn hyblyg; mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer fy mhrentisiaeth gan y byddaf yn gweithio ar draws yr holl unedau gwahanol o fewn yr Asiantaeth.”
Mae Jess yn bwriadu cwblhau’r HNC mewn Peirianneg Sifil cyn astudio am radd.

