04 Jul Tân Twnnel Conwy – Ymateb NMWTRA
Cafodd digwyddiad ei adrodd ddydd Iau, 19fedMehefin ar ôl i grên symudol fynd ar dân ar y gerbytffordd tua’r gorllewin y tu mewn i Dwnnel Conwy. Datganwyd y tân yn ddigwyddiad mawr gan y gwasanaethau brys. Galwyd deg injan dân a phedair uned arbenigol i’r safle.
Rhybuddwyd tîm Ystafell Reoli NMWTRA ychydig cyn 14:00 ddydd Iau am gerbyd llonydd yn y twnnel, a llwyddodd y tîm i ymateb ar unwaith. Drwy ddilyn eu gweithdrefnau ymateb penodol ar gyfer tanau mewn twneli ffyrdd, fe gaewyd y twnnel i draffig i’r ddau gyfeiriad, actifadwyd y system awyru, cynyddwyd y goleuo, a gosodwyd y system PA i gynghori’r cyhoedd am y digwyddiad, tra’n cydweithio â’r gwasanaethau brys hefyd. Anfonwyd tri swyddog o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’r ystafell reoli, lle rhannwyd cynllun argyfwng NMWTRA.
Sicrhaodd tîm cyfathrebu NMWTRA fod y cyhoedd yn cael eu hysbysu drwy gydol y digwyddiad.

Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau NMWTRA: “Dyma’r tro cyntaf i’r tîm ymdrin â’r math hwn o ddigwyddiad mewn amser real ac roedd yr ymateb yn rhagorol. Arhosodd y gweithredwyr yn dawel a phroffesiynol, ac o fewn dau funud i dderbyn yr hysbysiad roedd yr holl weithdrefnau digwyddiad ar waith ac roedd y tîm yn cysylltu â’r gwasanaethau brys.”
Mae’r tîm yn derbyn hyfforddiant ac yn gweithio’n galed i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer digwyddiad fel hwn, ac fe wnaethant ymateb yn union fel y disgwylid.”
Roedd ein Swyddogion Traffig ar y safle yn gweithio mewn tymereddau uchel am gyfnodau hir, yn darparu cordonau hanfodol, yn rheoli traffig, ac yn caniatáu i’r gwasanaethau brys gyflawni eu gwaith. Roedd gwaith caled ac ymroddiad pawb a fu’n rhan o’r ymateb yn eithriadol.”

Yn ogystal â thân y twnnel, roedd yn rhaid i’r ystafell reoli hefyd ymdrin â’r gweithgarwch arferol o ddydd i ddydd ar draws y rhwydwaith. Felly, fe rannwyd y tîm yn ddau dîm, un i reoli’r galwadau a oedd yn dod i mewn, a’r llall i fonitro’r twnnel.
Roedd Swyddogion Traffig yn bresennol ar y gerbytffordd tua’r dwyrain i gynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru i wagio’r twnnel ac i gefnogi gweithgarwch y gwasanaethau brys drwy reoli llif y traffig wrth Gyffyrdd J15 a J19.
Llwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ddiffodd y tân ac i oeri tu mewn y twnnel cyn trosglwyddo’r safle yn ôl i NMWTRA ar gyfer asesiadau diogelwch.
Cynhaliodd timau strwythurau, asedau a chydymffurfiaeth NMWTRA arolygiad cychwynnol i gadarnhau bod y twnnel yn ddiogel i’w gyrchu. Cafodd contractwr rheoli traffig NMWTRA ei symud i weithredu cyn gynted â phosibl, ac ailagorwyd y twnnel gyda llif gwrthgyfeiriol drwy’r twll tua’r dwyrain ychydig dros ddeg awr ar ôl i’r digwyddiad ddigwydd.

Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau Twneli NMWTRA: “Mae sefydlu llif gwrthgyfeiriol yn gofyn am dipyn o ymdrech gan y tîm. Fe wnaethom alw ar staff i gynorthwyo ac roedd yr ymateb yn anhygoel.”
Unwaith y cafodd y llif gwrthgyfeiriol ei sefydlu, roedd y tîm yn gallu cynnal arolygiadau manwl i bennu graddau unrhyw ddifrod. Y flaenoriaeth wedyn oedd adfer systemau’r twnnel yr effeithiwyd arnynt i gyflwr gweithredol cyn gynted â phosibl er mwyn caniatáu i’r twnnel ailagor yn llawn, gan leihau tarfu pellach i’r cyhoedd.”

Roedd y tân mor boeth nes iddo doddi nifer o asedau, gan achosi difrod sylweddol i systemau gweithredu’r twnnel.
Cynhaliwyd gwaith sylweddol gan dîm twneli NMWTRA i atgyweirio, amnewid ac adfer systemau’r twnnel, gan gynnwys yr awyru, y system PA gyfathrebu, canfod digwyddiadau, systemau ffôn, diffoddwyr tân a’r goleuo, nes y gellid ei ailagor yn ddiogel i draffig dwyffordd. Roedd hyn hefyd yn cynnwys ailwynebu’r gerbytffordd yr effeithiwyd arni.
Ailagorwyd y twnnel tua’r dwyrain yn oriau mân fore Gwener, gyda’r system llif gwrthgyfeiriol ar waith, a bu’r timau’n gweithio oriau hir i sicrhau y gallai’r twnnel ailagor yn llawn i draffig i’r ddau gyfeiriad erbyn 06:00 ddydd Sul, 22 Mehefin. Fodd bynnag, nid yw’r gwaith wedi’i gwblhau, ac mae’r twnnel wedi cael ac y bydd yn parhau i gael nifer o gau nos parhaus er mwyn parhau â’r gwaith atgyweirio i systemau’r twnnel.
Dywedodd tîm Uwcharweinyddiaeth NMWTRA: “Roedd yr holl staff a fu’n rhan o’r ymateb i’r digwyddiad, yr adferiad a’r gwaith atgyweirio parhaus yn dilyn tân Twnnel Conwy yn eithriadol. O’r dechrau i’r diwedd, roedd eu meddwl buan, eu proffesiynoldeb, eu cydweithrediad, a’u hymrwymiad i ddarparu ymateb o ansawdd uchel yn rhagorol.
Roedd yn wych gweld pawb yn dod at ei gilydd, yn aros yn canolbwyntio ac yn gwthio ymlaen drwy’r heriau i sicrhau’r canlyniad gorau posibl. Mae heriau fel hyn yn dangos cryfder a gwytnwch ein tîm. Tra bo’r gwaith adfer yn parhau, mae’r ymateb effeithiol wedi’i gydnabod ymhlith pawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad.